Mae panel annibynnol o arbenigwyr wedi barnu bod Prifysgol Abertawe’n darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau o ansawdd uchel i’w myfyrwyr. Mae’r Brifysgol yn gyson yn rhagori ar ofynion ansawdd cenedlaethol trwyadl ar gyfer addysg uwch yn y DU a barnwyd ei bod yn haeddu gwobr arian.
Yn ôl y Panel Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, dengys ein metrigau a’n cais bod:
- Myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn cyflawni deilliannau arddererchog.
- Cyfran uchel iawn o’n myfyrwyr o bob cefndir yn parhau â'u hastudiaethau, neu’n mynd ymlaen i astudiaeth bellach neu i weithio mewn cyflogaeth sgiliau uchel. Mae’r ffigyrau hyn llawer yn uwch na'r meincnod.
- Lefelau uchel iawn o foddhad â'r addysgu ymysg myfyrwyr llawn amser [NSS 2016].
- Cynllun ein cyrsiau yn ymestyn gallu ein myfyrwyr, yn enwedig trwy weithio gyda phartneriaid o’r diwydiant wrth ddatblygu ac adolygu cyrsiau.
- Addysgu personol o ansawdd uchel wedi ei fewnblannu ar draws y Brifysgol drwy gyfrwng system diwtorialau, canolfan arbenigol a monitro presenoldeb sy’n cyflyru lefelau uchel o ymrwymiad ac ymroddiad gan fyfyrwyr tuag at ddysgu ac astudio
- Gan y Brifysgol ddiwylliant sefydliadol sy'n cydnabod ac yn gwobrwyo addysgu rhagorol drwy ddatblygiad proffesiynol, arsylwi cymheiriaid, llwybrau dysgu a hyrwyddo ysgolheictod, a gwobrau am ragoriaeth mewn dysgu ac addysgu.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno fframwaith gwirfoddol i ddarparwyr addysg uwch sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo dysgu ac addysgu ardderchog ar gyfer darpariaeth i israddedigion.
Mae Panel Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu annibynnol o arbenigwyr, sy’n cynnwys academyddion, myfyrwyr a chynrychiolwyr cyflogwyr, yn ystyried tystiolaeth o set o fetrigau gan ddefnyddio data cenedlaethol yn ogystal â thystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y darparwr. Mae’r fetrigau’n ymdrin â chyfraddau parhau, boddhad myfyrwyr a chanlyniadau cyflogaeth.
Bwriad dyfarniadau Blwyddyn Dau Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu yw hysbysu penderfyniadau myfyrwyr a fydd yn dechrau ar eu cyrsiau ym 2018-19. Fodd bynnag, mae hefyd yn bosibl y bydd gan fyfyrwyr sy’n dechrau ar eu cyrsiau ym 2017-18 ddiddordeb yn y dyfarniadau.
Mae Prifysgol Abertawe ymhlith saith prifysgol yng Nghymru sydd wedi cymryd rhan yn y dyfarniadau Blwyddyn Dau gyda chyfanswm o 299 o brifysgolion, colegau a darparwyr amgen yn y DU a gymerodd ran.
Croesawodd yr Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor, y newyddion da: “Penderfynodd Prifysgol Abertawe gymryd rhan yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu gan ei fod yn cydnabod, yn gwobrwyo ac yn annog addysgu a dysgu ardderchog mewn Prifysgolion a cholegau i helpu myfyrwyr i ddewis ble i astudio drwy ddarparu gwybodaeth glir am ddarpariaeth addysgu a chanlyniadau myfyrwyr.
“Rydym yn hynod falch bod ein hymgais cyntaf yn y fframwaith asesu annibynnol hwn wedi’n gosod yn y categori arian. Bu’r broses yn ddefnyddiol wrth amlygu cryfderau ar draws y Brifysgol yn ogystal ag adnabod meysydd y gellid canolbwyntio arnynt yn y dyfodol.
“Rydym bellach yn cynnal ymarferiad ‘gwersi a ddysgwyd’ i sicrhau’n llwyddiant parhaus yng ngwobrau TEF gyda’r nod o droi’n gwobr arian yn wobr aur.”
Cyflwynodd Prifysgol Abertawe’i naratif ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr ddiwedd mis Ionawr eleni ar ôl sawl mis o ymgynghori â staff a myfyrwyr, casglu data a sgriptio.
Adnabuwyd rhai enghreifftiau hynod gadarnhaol o addysgu a dysgu ym Mhrifysgol Abertawe, er enghraifft:
Cyfraddau cyflogadwyedd ac astudio ymhellach rhagorol
- 20 sefydliad gorau yn y DU o ran cyflogadwyedd graddedigion ac astudio ymhellach.
- Mae 80% o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i gyflogaeth lefel raddedig neu astudiaethau pellach yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Llwyddiant Myfyrwyr
- Mae 78% o’n myfyrwyr yn ennill gradd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch.
Boddhad Myfyrwyr
- Mae cyfraddau boddhad myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr wedi bod ymhlith 20 uchaf y DU am y tair blynedd ddiwethaf, gan sgorio 90% neu’r uwch (NSS 2016).
- Mae gan Brifysgol Abertawe 350 o gynrychiolwyr myfyrwyr sy’n cynorthwyo wrth lunio profiad dysgu ac addysgu myfyrwyr Abertawe.
Prifysgol y Flwyddyn Cymru
- Dyfarnwyd gwobr Prifysgol y Flwyddyn Cymru gyntaf Canllaw Prifysgolion Da The Sunday Times i Brifysgol Abertawe, gan ein rhoi ar frig y sector addysg uwch yng Nghymru.
Buddsoddi Mewn Dysgu
- Mae’r Brifysgol yn gwario 13% mwy fesul myfyriwr ar gyfleusterau dysgu ac addysgu, gwasanaethau lles a chymorth academaidd ac ar ddatblygiadau newydd ar ein campysau na darparwyr addysg uwch cyffredin.
- Rydym yn cynnig mynediad i lyfrgelloedd a chyfrifiaduron â meddalwedd arbenigol 24 awr y dydd.
- Mae agoriad Campws y Bae, datblygiad newydd ar 65 erw gwerth £450 miliwn, wedi gwella amgylchedd dysgu’r myfyrwyr. Mae rhagor o ddatblygiadau ar y gweill er mwyn parhau i wella’r cyfleusterau ar ein dau gampws.
Cyflawni Potensial
- Mae Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe yn galluogi’n myfyrwyr i dderbyn y cymorth academaidd a bugeiliol iawn i lwyddo yn eu hastudiaethau.
Cymorth i Gyflawni
- Mae gwobrau dewis myfyrwyr WhatUni? wedi gosod Abertawe ymhlith y 5 uchaf yn y DU am gymorth i fyfyrwyr.
Cyfleoedd Rhyngwladol
- Caiff ein myfyrwyr gyfle i deithio i dros 20 o wledydd ledled y byd.
- Mae 86% yn cytuno’n gryf bod y profiad wedi gwella eu canlyniadau dysgu a graddio.
- Dydd Iau 22 Mehefin 2017 10.09 BST
- Dydd Iau 22 Mehefin 2017 09.11 BST
- Catrin Newman